“Nest” evolves each day as a little ritual- I make my body a temporary home, a little being makes a temporary home in me. It is a strange and mysterious encounter. We carry each other about,though we have not yet met. Our two parallel worlds conjoin two entirely different yet symbiotic times and places. We sense, yet make no sense of each other. Meanwhile I build a Nest. I gather my thoughts, feelings encounters with the world outside and inside, which often orbit around the unknown “human being” forming inside me. Transformation becomes a survival necessity. Is it Love… this little unravelling which is happening to me?
Dechreuodd Anushiye Yarnell ddawnsio ar ôl cwblhau ei hastudiaethau mewn Celfyddyd Gain ym Melfast ym 1999. Yn dilyn hyfforddiant rhagarweiniol mewn dawns gyfoes, aeth ymlaen i astudio Ysgrifennu Perfformiad a Dawns yn Dartington. Mae gwaith Anushiye yn bodoli fel deialog rhwng ieithoedd mynegiant coreograffeg a byrfyfyr, lle mae’r corff yn ein gwahodd i fyw mewn byd wedi ei gysylltu â realiti ymddangosiadol ein bodolaeth gorfforol, ac at y ffantasïau a grëir gan ein dychymyg.
Mae Nest yn esblygu pob dydd fel defod fach – rwy’n gwneud fy nghorff yn gartref dros dro, mae bodolaeth fach yn gwneud cartref dros dro tu fewn i mi. Mae’n brofiad rhyfedd a dirgel. Rydym yn cario ein gilydd o gwmpas, er nad ydym wedi cyfarfod eto. Mae ein dau fyd parallel yn cyfuno dwy adeg a lle hollol wahanol er symbiotig. Rydym yn synhwyro ond heb wneud unrhyw synnwyr o’n gilydd. Yn y cyfamser rwy’n adeiladu nyth. Rwy’n casglu ataf fy meddyliau, teimladau a chysylltiadau gyda’r byd tu allan a thu mewn, sydd yn aml yn troi o gwmpas yr un “bod dynol” anhysbys sy’n ffurfio tu fewn i mi. Mae trawsffurfio wedi dod yn anghenraid goroesi. Ai cariad ydyw… y datblygiad bach hwn sy’n digwydd i mi?